Croeso i
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl ym Mharc Teithio a Gwersylla Graeanfryn, mewn lleoliad heddychlon a golygfaol ond gyda mynediad hawdd i dafarndai, siopau, caffis, peiriant arian parod a golchdy. Mae’r safle’n agos at draeth Porthdinllaen a thafarn Tŷ Coch yn ogystal â Chlwb Golff syfrdanol Nefyn.
Yn swatio wrth droed Garn Fadryn gyda golygfeydd ysblennydd o Garn Boduan, mae Graeanfryn mewn lleoliad perffaith ar gyfer teithiau cerdded arfordirol hardd a chwaraeon dŵr cyffrous, yn ogystal â Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.
YNGLŶN Â’R LLE
Mae Graeanfryn yn safle carafanau teithiol a gwersylla cyfeillgar i deuluoedd, sy’n berffaith i deuluoedd neu unigolion sy’n chwilio am encil tawel ar benrhyn ysblennydd Llŷn.
Mae ein safle yn cynnwys 40 o leiniau mawr, sy’n addas ar gyfer carafanau teithiol a gwersylla, ac mae pob un yn cynnwys yr opsiwn ar gyfer bachu trydan.
Mae cyfleusterau ar y safle yn cynnwys cawodydd poeth, cyfleusterau toiled, man golchi llestri dan do, lawntiau helaeth a maes parcio.
LLETY HUNAN ARLWYO
Mwynhewch Gymru ar ei gorau a phrofi atgofion gwych gyda llety hunanarlwyo yn ein carafán sefydlog foethus.
Mae hwn wedi’i leoli ar wahân i’r safle teithiol a gwersylla gyda pharcio preifat, decin preifat uwch gyda dodrefn patio, a gyda golygfeydd godidog o Garn Boduan.
Mae’n cynnwys ystafell wely dwbl, ystafell wely pâr a lolfa fawr gyda theledu. Yn cysgu hyd at 4 o bobl.
LLEFYDD I YMAWELD
Mae Graeanfryn mewn lleoliad delfrydol i archwilio Penrhyn Llŷn ac Eryri.
Mae Llŷn wedi’i dynodi’n ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ ac wedi’i bendithio â thirwedd amrywiol sy’n gyforiog o fywyd gwyllt tra bod Llwybr Arfordir Llŷn yn cynnig golygfeydd godidog ar draws Môr Iwerddon.
Hefyd, mae’r trefi a’r pentrefi lleol yn llawn hanes.
PETHAU I’W GWNEUD
Mae gan Ben Llŷn rywbeth i bawb, gyda diwrnodau allan gwych yn ogystal â gweithgareddau dan do, i gyd o fewn pellter byr i’n safle felly rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i rywbeth i ddiddanu’r teulu cyfan yn ystod eich arhosiad.
Ni fyddai unrhyw ymweliad â’r ardal yn gyflawn heb ymweliad â thafarn lan môr enwog Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen.
adborth gan ychydig o'n gwestai â'n ymwelwyr diweddara.
I ddarllen mwy o adborth ac i ddal fyny gyda'r gwybodaeth diweddara o Graeanfryn, ymwelwch â'n tudalen facebook...